Hanes Dynamix

Gwreiddiau Dynamix

Dechreuodd Dynamix gyda dau ffrind. Roeddent yn rhannu cred mewn grym chwarae a chydweithredu i ddatblygu gallu pobl i weithio'n greadigol. Cafodd y cwmni ei sefydlu yn wreiddiol gyda chymorth wrth yr Asiantaeth Datblygu Gydweithredol (CODA Gorllewin Morgannwg). Daeth y ddau weithiwr datblygu cymunedol (Phill Burton a Pete Duncan) a'u profiad o chwarae, syrcas ac iechyd meddwl at ei gilydd i redeg hyfforddiant, ymgynghori a marchnata mewn ffordd hollol unigryw.

Wrth i waith y cwmni gynyddu felly tyfodd yr aelodaeth ac o fewn 4 mlynedd roedd y craidd wedi tyfu i 5 o gyfarwyddwr gyda llawer mwy o hyfforddwyr sesiynol. Wrth i fwy o hyfforddwyr ymuno â Dynamix, tyfodd ehangder a dyfnder y gwaith trwy bolisi o ddyfeisio dulliau newydd, taclo a datblygu themâu newydd a cheisio ar bynciau newydd. Symudodd y swyddfa o ystafell gefn yng nghartref Phill i swyddfeydd yn Salubrious Passage (ein henw stryd fwyaf poblogaidd hyd yn hyn!) ac yna ymgartrefom yn Uned 4D yn yr Hafod, ein cartref presennol.

Mae ein gwerthoedd craidd wedi parhau ac mae'n cred ein bod yn gallu trosglwyddo technegau, sgiliau a dealltwriaeth wedi ei gadarnhau gan y nifer ac ystod enfawr o gleientiaid. Mae Dynamix wedi tyfu yn organig drwy argymelliadau ar lafar ac mae wedi datblygu enw da am ddarparu atebion diddorol a chreadigol, ond yn bwysicach na hynny, atebion effeithiol ar gyfer taclo materion difrifol.

History