Cwestiynau Cyffredinol
We have provided a series of Q&A for any queries yo may have. If you cannot find an answer, please contact us.
Beth mae Dynamix yn ei wneud?
Mae Dynamix yn darparu hyfforddiant, ymgynghori a gwerthuso, hwyluso a chyfryngdod, a datblygu adnoddau. Rydym yn helpu pobl i archwilio materion difrifol mewn ffordd llawn hwyl. Cliciwch yma am fwy o wybodaeth
Gyda pwy ydych chi'n gweithio?
Mae Dynamix yn gweithio gyda phlant, pobl ifanc ac aelodau cymunedol yn ogystal â gweithio gyda phobl broffesiynol sydd yn cefnogi'r grwpiau yma.
Pa fath o fudiad yw Dynamix?
Rydym yn fenter gydweithredol a chydweithfa gweithwyr sydd yn golygi bod ein gweithwyr yn berhnogion ar ac yn rhedeg y busnes. Cliciwch yma am fwy o wybodaeth
Pwy ydych chi'n gweithio gyda hwy?
Mae Dynamix wedi ei gontractio gan Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol, mentrau gwirfoddol a'r trydydd sector, cyrff cenedlaethol & awurdodau lleol a mudiadau cymunedol.
Pwy sydd yn eich ariannu?
Rydym yn fenter gydweithredol sydd yn golygu ein bod yn hunan-gynhaliol: rydym yn cynhyrchu ein cyllid ein hunain. Rydym yn falch i ddweud bod masnach yn cyfrannu i dros 80% o'n incwm. Yn achlysurol cawn ein ariannu gan grantiau (e.e. ein prosiect Hyfforddiant Lles wedi ei ariannu gan Plant Mewn Angen ). Mae rhai grantiau yr ydym wedi ceisio amdanynt yn benodol ar gyfer datblygu ein busnes (e.e. cawsom ein cyllido gan Ymddiriedolaeth Adfywio'r Meysydd Glo yn 2011/12).
Ble'r ydych yn gweithio?
Rydym yn gweithio ar draws Cymru a rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig. Mae ein swyddfa wedi ei leoli yn Abertawe.
Ers pryd mae Dynamix wedi bodoli?
Sefydlwyd Dynamix yn 1989.
Beth gallaf ei ddisgwyl o gytundeb gyda Dynamix?
- Hyfforddwyr profiadol gydag ystod o sgiliau
- Rhaglen o weithgaredddau wedi eu teilwra ar eich anghenion
- Offer ac adnoddau
- Yswiriant cyflawn sydd yn cynnwys pob gweithgaredd
- Cymhareb staff i weithio'n ddiogel gyda maint eich grŵp
- Amser ysbrydoledig, creadigol, cyffrous a hwyl!
