dynamix-logo.gif
text size: A- A A+
Staff y Swyddfa

ann-brown.jpgSwyddog Cyllid

Mae gan Ann OND mewn Astudiaethau Busnes a gradd mewn Astudiaethau Cymysg. 

Mae Ann wedi gweithio efo Cymorth i Fenywod a MEWN. Mae ei sgiliau cyllidol ardderchog yn ein helpu i gadw'n pennau uwch y dwr! Roedd hi'n arfer canu efo'r band The Plagiarettes (a chafodd eu gwrthod gan Opportunity Knocks  am fod yn rhy ddadleuol!).

 
dev-1-staff_16.jpgRheolwr Swyddfa
Mae gan Bethan radd mewn Seicoleg a tystysgrif ol-raddedig mewn addysg cynradd.

Mae hi'n siaradwr Cymraeg iaith gyntaf, sy'n ein galluogi i gyfieithu dogennau yn fewnol. Mae hi hefyd yn hoffi cyfieithu dogfennau ffurfiol i iaith sy'n gyfeillgar i bobl ifanc. Mae ei thalentau creadigol yn cael eu defnyddio i gynllunio defnyddiau ac i ysgrifennu ein newyddlennau. Mae hi'm mwynhau seiclo, cerdded yn y mynyddoedd (yn Peru yn ddiweddar) a crochenwaith.

 

nancy-brown.jpg Rheolwr Swyddfa

Mae gan Nancy 4 mlynedd o brofiad mewn rhedeg swyddfeydd, yn ogystal a gradd mewn Daearyddiaeth.

Dyw Nancy ddim yn hawdd i'w chynhyrfu - er bod swyddfa prysur Dynamix yn ei gwthio i'r min ar adegau! Pan nad yw hi'n trefnu'r hyfforddwyr, mae hi'n hoff o ddatblygu adeiladau/addurno ystafelloedd. I leihau straen, mae nancy'n mwynhau neidio bynji, awyr-blymio ac eirafyrddio.

 
ness-buckler.jpg

Rheolwr Swyddfa

Mae gan Ness radd Seicoleg/Troseddoleg a diploma mewn dulliau Gweinyddiaeth.

Gyda'r gallu i ganolbwyntio ar nifer o dasgau ar unwaith, gall Ness siarad ar y ffon ac edrych ar ol y hyfforddwyr ar yr un pryd! Hi yw pencampwr ailgylchu Dynamix a mae hi;n sicrhau bod pawb yn cadw i mewn efo ein poisiau amgylchedd. Mae hi'n hoff o archebu adnoddau 'gwyrdd', sicrhau bod pawb yn cael eu hoff de/coffi Masnach Teg ac ymweld a'r Canolfan Adnoddau Chwarae. 'Dydi hi ddim yn hoffi bagiau 'jiffy'. Rhai blynyddoedd yn ol, cymerodd ran mewn fideo pop!

 

rosalba.jpg Rheolwr y Storfa

Mae Rosalba yn effeithlon iawn, gan sicrhau bod strofa Dynamix (sy'n llawn dop o degannau a pheiriannau) yn cael ei ei gadw'n drefnus ac hefyd yn cynorthwyo'r tim gweinyddu.

Mae hi wedi gweithio efo pobl ifanc yn Townhill, can gynnwys trip cyfnewid efo plant amddifad o Romania. Mae hi'n trefnu'r perfformiadau ar gyfer Samba Tawe, grwp drymiau a grwpiau dawns ar nifer o achlysuron. Roedd hi'n arfer rhedeg siop trin gwallt ei hun, mae hi wrth ei bodd yn garddio a mae hi'n siarad Eidaleg.

 

armadip-virdee.jpgGlanhawr

Mae Armadip yn cadw swyddfa Dynamix, y mannau cyhoeddus a'r ystafell hyfforddi yn lan tra'n gwisgo amrywiaeth hynod o freichledau gloyw!