dynamix-logo.gif
text size: A- A A+
Latest News
Dynamix yn ymweld ag Eden

 

Aeth tim o Dynamix i lawr am yeden_surf_board.jpgmweliad i Brosiect Eden yng Nghernyw. Y bwriad oedd ysbyrdoli ein hunain a dysgu wrth eu prosiect. Fe gwrddom gyda rhyw ddwsin o bobl sydd yn gweithio i'r mudiad sydd bellach yn cyflogi 600 o wieithwyr, ac fe rhoddwyd blas o'r hyfforddiant rydym yn ei gynnig iddynt yn y bore. Yn y prynhawn fe aethom i gyd am ychydig oriau i'r biomes (gyda'r pypedau wrth gwrs) i gael ein hysbrydoli a sgwrsio am gydweithio posib yn y dyfodol. Daeth nifer o syniadau cyffrous o'n hymweliad, gan gynnwys ail-ymweld y flwyddyn nesad a chyfnewidiau posibl yn y cyfamser.

 

Yn un o'r e-byst wrth Eden wedi'r ymweliad, dywedon "roedd yn gret i gwrdd gyda chi a gwario amser gyda'n gilydd. mae'n deimlad braf dod ar draws cyd-gynllwynwyr - neu a yw'n deulu estynedig nad oeddech yn gwybod yr oedd gennych? Dyma i anturiaethau i ddod!"

 puppets_in_eden.jpg

Rydym i gyd yn ysgu i ddatblygu prosiectau newydd a chyffrous. Cysylltwch a ni i gael mwy o wybodaeth o'n hymweliad ac i drafod syniadau ar sut y gallwch chi ymwneud hefyd.

dynamix_in_eden_group.jpg

 
Your Choice - Their Voices!

 
Dynamix wouldlike to say a HUUUGE thankyou to the people that provided the voiceovers for our Your Choice Your Voice film promoting our latest Participation Training for young people across wales.

 

English voiceovers - Kaylaa Capewell and Troy Foxworthy.

 

 Welsh voiceovers - Bethan Sleep and David Williams.

 

 

 

 

 
Ydych chi i Mewn neu Allan?

Dyn ni'n meddwl mai ni yw'r cwmni cyntaf erioed i ddefnyddio system in mewn ac allan gan ddefnydio rol ty bach i weld pwy sydd yn y swyddfa a phwy sydd allan .......

 inout.jpg

 
Hyfforddiant Newydd **AM DDIM** ar gyfer Pobl Ifanc

Cyfranogi, Eich Llais a'ch Dewis chi yw e' -  Hyfforddiant AM DDIM i bobl ifanc

A yw'r bobl ifanc rydych chi'n gweithio gyda nhw:

  • yn deall eu hawliau?

  • yn gwybod sut gallan nhw elwa trwy gyfranogi?

  • yn helpu i redeg eich/eu sefydliad?

  • yn magu'r sgiliau ymarferol i ddechrau arni?

  • angen codi eu hyder a gwella'u hunan-barch? your_voice_logo.jpg

  • I helpu pobl ifanc i ymwneud, mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn cynnig hyfforddiant am ddim - bydd yn llawn hwyl, a gallwn ni ei addasu yn ol anghenion eich grwp.

  • Mae'r hyfforddiant yn addas i bob person ifanc 11-19 oed yng Nghymru, yn arbennig rhai sydd heb wneud y math hwn o hyfforddiant o'r blaen. Efallai y bydd clybiau ieuenctid, ysgolion a grwpiau o sgowtiaid a geidiaid i gyd yn awyddus i gynnig y cyfle i'w pobl ifanc gymryd rhan. Byddai o fudd arbennig i bobl ifanc sy'n aelodau o gynghorau ysgolion neu fforymau ieuenctid, sy'n astudio ar gyfer Bagloriaeth Cymru, neu rai sy'n cyfrannu at y gwaith o ddatblygu mudiad maen nhw'n perthyn iddo.  

 Mae gan Dynamix 20 mlynedd o brofiad o weithio'n gynhwysol yng Nghymru gyda holl bobl ifanc y wlad.

Mae Continyou Cymru wedi ymrwymo i greu cyfleoedd dysgu y gall pawb fynd atyn nhw'n rhwydd, ac i ddatblygu cymundeau cydlynol.

I drefnu hyfforddiant ar gyfer eich grwp, neu i gael mwy o wybodaeth, ffoniwch 01792 466231 neu e-bostiwch Diogelir y cyfeiriad e-bost hwn rhag botiau sbam - bydd angen rhoi JavaScript mewn grym i edrych arno

 
Swyddfa i'w rhentu yn Hafod, Abertawe

Mae gennym 450 troedfedd sgwar o wagle swyddfa i'w rhentu am bris cystadleuol (£8 am droedfedd sgwar y flwyddyn e.e. £300 y mis). Yn ogystal mae gennym wagle hyfforddi i'w hurio a chyfleusterau rhannu cegin. Rydym wedi'n lleoli yn agos i ganol Abertawe (mae'r orsaf drenau 10 munud i ffwrdd ar droed) ac mae parcio am ddim y tu allan. Ffoniwch Chris am fwy o fanylion neu yn well na hynny, dewch i gael cip olwg eich hun. Fe fyddai posibilrwydd o fwy o wagle pe byddai angen.

 

DEWISLEN NEWYDDION

Bookmark and Share