Mae gan Amy Radd Dosbarth 1af mewn Athroniaeth Cymdeithasol, NVQ Lefel 1 mewn hyfforddiant a datblygiad, tystysgrif TESOL, Diploma mewn Gwaith Cymdeithasol a Meistr mewn Astudiaethau Cymdeithasol.
Mae gan Amy gefndir mewn datblygu cymdeithasol a gwrth-dlodi. Gweithiodd am nifer o flynyddoedd fel swyddog datlbygu gyda Tŷ Fforest yn Abertawe ac roedd yn gweithio'n galed ar hyrwyddo hunan-rheoli a pherchnogaeth y prosiect. Cyn hynny, gweithiodd fel Swyddog Gwrth-Dlodi gyda Dinas a Sir Abertawe, yn cefnogi Rhwydwaith Gweithredoedd Tlodi Abertawe gyda dros 400 o aelodau ac yn hwyluso datblgyiad Global-A-Fayres - prosiect datblygiad cynaladwy cymdeithasol yn ymdrin â brwydro yn erbyn tlodi byd-eang mewn partneriaeth â'r rhwydwaith Local2Global. Arbenigodd mewn datblygu cymunedol adeg ei meistr mewn Astudiaethau Cymdeithasol ac ysgrifenodd draethawd hir ar hanes Datblygu Cymunedol yng Nghymru a sut mae'r gorffennol wedi effeithio ar fodeli presennol o ddatblygu cymunedol.
Mae ganddi brofiad helaeth o weithio gyda grwpiau ar y ffin gymdeithasol ac mae wedi hyfforddi pobl ifanc mewn pob math o sefyllfaoedd, yn benodol ar gyfer Circus Eruption. Yn ei ieuenctid dysgodd Saesneg ym Mhortiwgal, Indonesia a Gwlad Pwyl, roedd yn Weithiwr Prosiect mewn Gwersyll Ffoaduriaid ym Mhalestein ac yn Addysgwr Gweithgareddau Awyr Agored yn Maryland, UDA.
Mae Amy wedi astudio Cymraeg, sydd yn ei galluogi i gefnogi darpariaeth cyfrwng Cymraeg mewn gweithdai ac hyfforddiant.
|
Mae gan Ant radd mewn Athroniaeth Cymdeithasol, Meistr mewn Gweinyddiaeth Busnes a tystysgrif TEFL.
Cydgysylltodd a rhedodd prosiect prawf CASE (Menter Cydweithredol a Chymdeithasol) mewn ysgolion ledled y wlad, sy'n annog sefydlu mentrau cydweithredol bach o fewn sefyllfaoedd addysgol. Fe gyd-ysgrifennodd y pecyn Not Just For Profit: Social Enterprise in the Curriculum. Mae Ant yn gwneud defnydd da o'i sgiliau MBA trwy drefnu ceisiadau cyllid a cynorthwyo efo cynllun busnes Dynamix. Mae o wedi gweithio ar nifer o brosiectau ymgynghori efo grwpiau anodd i'w cyrraedd yn y gymdeithas. Ar hyn o bryd mae wrthi'n cynllunio ac adeiladau ty 'eco' i fyw ynddo efo'i wraig a'i blant er nad oes ganddo unrhyw brofiad o bensarniaeth nac adeiladu - mae Ant wrth ei fodd gyda her!
|
Mae gan Ben radd mewn Seicoleg ac Athroniaeth
Mae o'n siaradwr Cymraeg rhugl a mae o wedi rhedeg nifer o weithdai cyfranogi dwyieithol. Cyn ymuno a Dynamix, roedd o'n reolwr yn Circus Eruption (prosiect syrcas cyfun pobl ifanc) sy'n annog y pobl ifanc i gymeryd rhan mewn rhedeg y mudiad trwy ymgynghoriad a chynhwysoldeb. Fel Pencampwr Cynhwysoldeb Dynamix, mae o'n gwneud yn siwr bod pawb yn cadw i fyny efo'r newyddion diweddaraf a mae o hefyd yn trefnu hyfforddiant mewnol ar gyfer staff. Rhedodd hyfforddiant yn ddiweddar ar gyfer pobl ifanc er mwyn eu helpu i recriwtio Comisiynydd Plant newydd i Gymru. Ben 'nath ddyfeisio 'amser chwarae' yn swyddfa Dynamix, sy'n cynnig siawns i'r staff gael hwyl a rhannu syniadau yn ystod eu hamser egwyl. Mae o wrth ei fodd yn cymeryd rhan mewn rhywbeth sy'n ymwneud a'r syrcas (jyglo, jyglo cyswllt, stilts sboncio, chwarae tan, cerfluniau tan, diablo) a syrffio.
|
Mae gan Charlie radd mewn Saesneg ac Astudiaethau Diwylliant, OCN hyfforddi'r hyfforddwyr, BTEC mewn sgiliau cynghori a lefel A mewn Cymraeg.
Mae Charlie yn ymddiddori mewn pobl; materion cymdeithasol, perthnasu a hunaniaeth. Arweinioedd y prosiect dydd HLF Hunaniaeth Gymraeg a chydlynodd Ymgynghoriad Cynllun Gofodol Llywodraeth Cynulliad Cymru gyda pobl ifanc ar draws Cymru. Fel pencampwr cydweithrediad Dynamix mae'n cadw Dynamix ar y blaen ym myd addysg a dysgu cydweithredol. Mae Charlie yn arbennig yn hapur yn cymdeithasu gyda ffrindiau hen a newydd neu yn gwneud pethau creadigol.
|
Cyn ymuno a Dynamix, roedd Eleanor yn gweithio efo Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Abertawe, Prosiect Cynnal Teuluoedd Eastside a Prosiect Pobl Ifanc Di-Gartref Abertawe (SYSHP).
Roedd hi'n brif weithiwr yn SYSHP efo pobl ifanc dan anfantais.Mae hi wedi gweithio efo Dynamix yn Uned Diogel Hillside, yn ymgynghori efo'r pobl ifanc am eu profiad o fywyd a'u helpu i gyhoeddi fersiwn cyffiellgar i bobl ifanc o'u pecyn sefydlu. Mae hi wedi bod yn brief hyfforddwr ar y prosiect ASSIST, sy'n anelu i leihau ysmygu mewn ysgolion. Mae hi'n arbennigwraig ar greu fferins cynhwysol!
|
Mae gan Iain Feistr mewn Cymdeithaseg a thystysgrif ol-radd mewn addysg - gwaith ieuenctid a chymuned.
Mae gan Iain brofiad eang o weithio yn y sector gwirfoddol. Mae ei waith cyn ymuno a Dynamix yn cynnwys cynorthwyo pobl di-gartref a oedd yn cysgu'n arw a gweithio mewn lletyoedd a phrosiectau gofal. Fel ein pencampwr Ewropeaidd, mae o wedi hybu cysylltiadau efo gweithwyr chwarae ym Mhortiwgal, Lithwania, Romania, Bwlgaria, Masedonia, Bosnia-Herzegovinia, Awstria, Denmarc, Slofenia, Slovakia ac Estonia. Mae ganddo'r gallu i redeg hyfforddiant trwy gyfrwng y Saesneg ledled Ewrop. Mae Iain yn ddel mewn cilt a mae'n hoff o adrodd straeon.
|
Mae gan Jo brofiad eang o hyfforddiant, hwyluso, ymgynghori a chelfyddau cymunedol.
Mae hi wedi cymeryd rhan mewn cynnal pobl ifanc mewn syrcas cyfun, Circus Eruption ac Interplay, sy'n cynnig darpariaeth chwarea cynhwysol. Mae ei gwaith gyda Dynamix yn cynnwys cynllunio'r pecyn gwrth-fwlio dan 5-oed (Haul Hapus, Dafad Drist) a'r pecyn gorchymyn rhieni sy'n cael ei ddefnyddio gan weithwyr o't tim troseddu ieuenctid pan yn rhedeg cyrsiau ar gyfer rhieni. Roedd hi'n brif weithiwr ar y gweithdai Annog Ymddygiad Positif mewn ysgolion uwchradd, gweithiodd ar ymgynghoriad cymunedol Cymunedau'n Gyntaf Betws a'r adroddiad. 'Dydi hi ddim yn hoff o glociau efo rhifau Rhufeinig nac uchder!
|
Mae John yn athro cymwys gyda thystysgrif mewn Addysg a thystysgrif mewn rheolaeth ymddygiad bositif.
Mae John yn siradwr Cymraeg iaith gyntaf a mae o wedi rhedeg nifer o ymgynghoriadau a hyfforddiant i oedolion a phobl ifanc trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae o'n reolwr yn Interplay, gwasanaeth chwarae cyfun a chynhwysol yn Abertawe. Mae John yn ymgynghori efo'r pobl ifanc sy'n mynychu Interplay yn rheolaidd er mwyn darganfod eu hanghenion a'u dyheadau. Mae o'n llawn brwdfrydedd am yr iaith Gymraeg a syrcas. Mae o wedi cael ei gymharu efo cymeriad o Scooby Doo - sydd ar fai am ei lysenw, Daphne!
|
Mae Phill yn un o gyd-sefydlwyr Dynamix a fe ysgrirfennodd un o werthwyr gorau Dynamix - y llyfrau gemau 'Serious Fun'.
Mae ganddo Feistr mewn Plentyndod Cynnar, gradd Seicoleg, CQSW (DipASS) diploma gwaith cymdeithasol a chymhwyster ol-raddedig mewn hyfforddi oedolion.Mae o'n frwdfrydig am chwarae a fe yw pencampwr chwarae Dynamix. Mae Phill hefyd yn un o gyd-sefydlwyr gwasanaeth chwarae cyfun a hamdden 'Interplay' a Circus Eruption.Mae Phill yn chwarae rhan allweddol mewn cynllunio dulliau hyfforddi cyfrannogol a cymerodd rhan mewn dyfeisio'r pecyn hyfforddi gwreiddiol 'Newid Agweddau'. Mae wrth ei fodd yn dod a phethau difywyd i fywyd (h.y. pypedeg). Mae ganddo gymhwyster Achub Bywyd a mae'n hoff o nofio yn y mor ar adegau amhriodol (pan mae hi'n oer, tywyll neu'n bwrw eira!). Mae o wedi seiclo o John O'Groats i Lands End are feic tri-person a mae o wedi lwcdeithio o Tehran i Lundain.
|
|