| Hanes |
Gwreiddiau DynamixMae Dynamix wedi bod yn gweithio i greu newid cymdeithasol ers 1988. Wedi ei sefydlu yn Abertawe, mae gan ein cwmni ddim-am-elw griw o weithwyr profiedig sy'n dal i dyfu. Rydyn wedi hyfforddi a hwyluso ar gyfer grwpiau o bob oedran, o bob cornel o'r Deyrnas Unedig a thu hwnt. Sut dechreuoddDechreuodd Dynamix efo dau ffrind. Roeddynt yn rhannu cred mewn grym chwarae a cydweithredu i ddatblygu gallu pobl i weithio mewn ffordd greadigol. Cafodd y cwmni ei osod i fyny gyda chymorth gan Asiantaeth Datblygu Cydweithredol (CODA Gorllewin Morgannwg). Daeth a'r ddau weithiwr datblygiad cymunedol (Phill Burton a Pete Duncan) a'u profiad o chwarae, syrcas a iechyd meddwl at ei gilydd er mwyn rhedeg hyfforddiant, ymgynghori a marchnata gwahanol i'r drefn. Tra dyfodd gwaith y cwmni, felly tyfodd yr aelodaeth ac o fewn 4 mlynedd, roedd y craidd wedi tyfu i 5 cyfarwyddwr a llawer mwy o hyfforddwyr cydymaith.Wrth i fwy o hyfforddwyr ymuno a Dynamix, tyfodd ehangder a dyfnder y gwaith trwy bolisi o ddyfeisio dulliau newydd, taclo a datblygu themau newydd a cheisio ar bynciau newydd. Mae'r swyddfa wedi symud o ystafell gefn yn nhy Phill, i swyddfeydd yn Salubrious Passage (ein enw stryd mwyaf poblogaidd hyd yn hyn!) ac wedi aros yn ein adeilad presennol yn Hafod. Gwerthoedd CraiddMae ein gwerthoedd craidd wedi aros yr un fath gyda'r cred ein bod yn gallu rhannu technegau, sgiliau a dealltwriaeth yn cael ei brofi gan ein gwaith gyda amrywiaeth mawr o gwsmeriaid. Mae Dynamix wedi tyfu mewn ffordd gynhenid trwy argymhellion gan gwsmeriaid a mae wedi datblygu enw da am gynnig datrysiadau diddorol, creadigol (a hwyl) i faterion difrifol. |