dynamix-logo.gif
text size: A- A A+
Gwerthoedd

Mae Dynamix yn fusnes sy'n dilyn gwerthoedd ac egwyddorion sy'n gyffredin gyda syniadau a delfrydau cydweithredu, hynny yw: hunan-gymorth, hunan-gyfrifoldeb, democratiaeth, cydraddoldeb, cyfiawnder; cydsafiad, gonestrwydd, didwylledd, cyfrifoldeb cymdeithasol, gofalu am eraill. 

Mae hyn yn golygu ein bod yn cydweithio er mwyn rhannu syniadau, adnoddau ac i gyfranogi gyda'n gilydd ac efo grwpiau eraill sy'n rhanny ein gwerthoedd a sy'n gweithio tuag at wneud ein byd a le tecach a mwy gonest.

Ein Egwyddorion 

Rydym hefyd yn tanysgrifio i egwyddorion sy'n cael eu rhannu gan fudiadau cydweithredol rhyngwladol.Mae rhain yn ein helpu i ymarfer ein egwyddorion trwy ein gwaith dydd i ddydd. 

1: Aelodaeth Gwirfoddol ac Agored (gall ein gweithwyr i gyd ymuno a'n cydweithrediad fel aelodau) 
2: Rheolaeth Aelodau Democratig (mae gan pob aelod yr un pwer pleidleisiol)
3: Cyfranogaeth Ariannol i Aelodau (aelodau i gyd i benderfynu ar ddyfodol ariannol y busnes)
4: Ymreolaeth ac Annibynniaeth  (os 'da ni'n creu cytundeb efo eraill, rhaid i'r cytundeb beidio ag ymyrru a'n strwythur democrataidd na torri'r rheolau 'da ni wedi gosod) 
5: Addysg, Hyfforddiant a Gwybodaeth (rydym yn darparu addysg a hyffordiant ar gyfer ein aelodau)
6: Cydweithredu gyda Cydweithrediadau eraill (rydym yn gweithio efo cwmniau cydweithredol eraill trwy strwythurau lleol, cenedlaethol a rhanbarthol)
7: Gofalu am y Gymuned (rydym yn gweithio tuag at ddatblygiad cynaladwy yn ein cymuned a'r byd)