|
Eich Llais Chi, Eich Dewis Chi, Eich Canllaw Bychan! |
Ar hyn o bryd mae Dynamix a Continyou Cymru yn gweithio ar ganllaw bychan i arweinwyr pob grwp ieuenctid sydd wedi derbyn ein hyfforddiant Eich Llais Chi, Eich Dewis Chi. Bydd y canllaw hwn yn dangos sut mae arweinwyr wedi gweithio mewn amryw o ffyrdd i annog pobl ifanc yng Nghymru na wrandewir arnynt yn aml a gweithio gyda hwy i ehangu ar eu gwybodaeth a'u brwdfrydedd ynglŷn â chyfranogi.
Bydd y canllaw yn arddangos astudiaethau achos wrth yr hyfforddwyr ac arwyddbyst i arweinyddion; yn helpu i bontio'r gwagle rhwng derbyn hyfforddiant a'i droi'n ffordd cynaliadwy o weithio gyda pobl ifanc. Bydd dosbarthiad cyfyngedig o'r cyhoeddiad ar gael am ddim i grwpiau sydd wedi derbyn yr hyfforddiant a bydd ar gael i'w lawrlwytho o'r wefan hon ac wrth Continyou Cymru. Disgwylir y lawnsiad Rhagfyr '09.
|