| Cwestiynau Poblogaidd |
Beth yw Dynamix?Mae Dyamix yn gwmni cydweithredol. Mae hyn yn golygu bod ein gweithwyr yn berchen ac yn rheoli'r cwmni. Be 'da chi'n ei wneudMae Dynamix yn cynnig hyfforddiant a hwyluso, paciau a llyfrau sy'n helpu pobl i drafod materion difrifol mewn ffordd sy'n hwyl. 'Rydym yn anelu i annog cyfnewidiad cymdeithasol a cydraddoldeb ac adlewyrchir hyn yn ein dulliau, sydd yn gyfrannogol, cynhwysol ac ymalluogol. I bwy 'da chi'n gweithio?Unrhyw un sydd eisiau creu newid am y gorau o fewn eu cwmni neu cymuned. Pwy sy'n eich cyllido?Gan fwyaf, 'rydym yn cael ein cyllido'n uniongyrchol drwy'r pobl sy'n bwcio hyfforddiant gyda ni. Mae rhai prosiectau yn cael eu cyllido trwy grantiau gan gwmniau megis 'Co-operative Action' neu'r Undeb Ewropeaidd. Ble 'da chi'n gweithio?Mae ein swyddfa wedi ei leoli yn Abertawe, ond mae gweithwyr Dynamix yn gwario llawer o amser yn teithio o amglych y Deyrnas Unedig. Gallwch hyd yn oed ein darganfod yn gweithio cyn belled a'r Eidal, Ffindir, Denmarc, Twrci, Tansania neu Beijing! Ers pryd 'da chi wedi bod yn marchnata?Cafodd Dynamix ei sefydlu yn 1988 a 'da ni wedi bod yn tyfu ers hynny. Faint ohonoch sy'n gweithio i'r cwmni?Ar y funud, mae 15 aelod o Dynamix. Be' da chi'n ei wneud?Mae gan gweithwyr 3 prif dasg: Rheoli's swyddfa, gwaith datblygu a hyfforddiant. Mae'r galw am farchnata, ymgynghori, ysgrifennu, cynllunio ac ymchwilio yn tyfu ond, ar hyn o bryd, does dim swyddi penodol i ddelio a'r tasgau hyn. Beth yw cefndir eich hyfforddwyr?
Mae cefndir ein hyfforddwyr yn cwmpasu gwaith cymunedol, celfi cymunedol, addysg, gwaith ieuenctid, cyfrifiaduron, dinasyddiaeth y byd, yr amgylchfyd, camddefnyddio cyffuriau, ieithoedd, sgiliau rhieni, nyrsio, gwaith cymdeithasol, chwarae a cherddoriaeth.
Beth alla'i ei ddisgwyl o gytundeb efo Dynamix?
|