Cyfranogi
Mae rhoi llais i bobl mewn penderfyniadau sy'n effeithio eu bywydau yn eu galluogi i gymeryd perchnogaeth ac i gymeryd rhan fywiog mewn creu newid. Mae Dynamix wedi cyhoeddi amrywiaeth o ddulliau i annog cyfranogaeth a rydym yn cynnig hyfforddiant yn eu defnydd. Rydym yn defnyddio dulliau cyfrannogol i ymgynghori ac i weithio gyda phobl o bob oedran.
|
|
Cydweithio
Menter gweithwyr cydweithredol yw Dynamix. Rydym yn anelu i ymarfer gwerthoedd ac egwyddorion y symudiad cydweithredol o fewn ein gwaith dydd i ddydd. Mae ein gwaith yn cefnogi cymdeithasau eraill i ddarganfod datrysiadau cydweithredol.
|
|
Cynwysoldeb
Proses sy'n galluogi pobl i gael eu gwerthfawrogi fel unigolion a sy;n cynnig cyfleoedd i gyfranogi yw cynhwyso. Mae Dynamix yn cynnig hyfforddiant i helpu pobl a chymdeithasau i ymarfer cydraddoldeb.
|
 |
Chwarae
Mae chwarae yn cwmpasu ymddygiad plant sy'n digwydd trwy ddewis rhydd, sy'n digwydd orherwydd natur plant a a sy'n cael ei gyfeirio gan y plant. Mae Dynamix yn cynnig hyfforddiant ar gyfer oedolion sy'n ymchwilio sut gall lleoliadau awyr agored gael eu defnyddio o fewn gosodiad chwarae, gemau a gweithgareddau, risg mewn chwarae a chynhwyso. Gall Dynamix redeg cyrsiau p3 Chwarae Cymru.
|
 |
Menter
Mae ymchwilio ffyrdd creadigol o ddatrys problemau, edrych ar bethau o safbwynt wahanol a dechrau mentrau newydd yn rhan o ein hyforddiant menter ni. Rydym hefyd yn cynnig hyfforddiant sy'n edrych ar fentrau cydweithredol e.e. edrychwch ar ein adnoddau di-dal ar www.case4us.com
|
|
|