| Cymunedau’n Gyntaf Llwynhendy |
|
Beth yr ydym yn ei wneud?
Mae Dynamix wedi bod yn rhan o brosiect cyffrous a gwobrwyol yng nghymuned Llwynhendy i wneud gwaith gwerthuso are u 8 mlynedd diwethaf yn rhaglen Cymunedau’n Gyntaf Llwynhendy.
Y nod yw gwerthuso’r cynnydd yn erbyn set o stategau llinell gefn wedi eu adnabod mewn ymgynghoriad yn 2003, sefydlu beth sydd wedi gwella a pha sialensiau sydd yn dal i wynebu’r gymuned.
Pam ydym eisiau rhannu hyn gyda chi?
Rhannwyd y prosiect yn ddau lle roedd gwirfoddolwyr o grwpiau oedolion a phobl ifanc yn ogystal â’r tîm Cymunedau’n Gyntaf wedi eu cefnogi i ddeall beth sydd angen ei ystyried wrth gynnal ymgynghoriad, ystod o ddulliau ac wrth ddylunio ymgynghoriad, oedd yna wedi ei ymgymryd gan y gwirfoddolwyr a Dynamix. Yna cyflwynwyd hyn i’r gymunedi’r gymuned mewn digwyddiad â fynychwyd gan 120 o drigolion, ysgrifennom adroddiad llawn, adroddiad gweledol hawdd ei ddarllen ar gyfer aelodau’r gymuned a fe’i gyflwynwyd mewn adroddiad digidol yn eiriol a gweledol sydd ar gael ar youtube.
Fe waneth Amy Sanders, y gweithwir o Dynamix gael profiad gwerthfawr iawn yn gwneud y gwaith hwn. Roedd yn bleser cael gweithio gyda’r gymuned yn Llwynhendy ac mae’r bartnertiaeth Cymunedau’n Gyntaf yn ysbrydoledig, mae’r lefel rhyfeddol o ymwneud cymunedol yn Llwynhendy a’r ffaith fod y tîm Cymunedau’n Gyntaf yn cael eu parchu gymaint gan y gymuned yn ddau thema oedd wedi rheoli’r brosiect cyfan. Mae’n stori llwyddiant ardderchog ac yn dangos pa mor bositif y mae gwaith datblygu cymundeol yn gallu bod.
Mae’r prosiect hefyd yn mynd â gwaith Dynamix ymlaen (hyd yn oed mwy!) drwy ddartblygu dulliau ymgynghori newydd gan gynnwys ein defnydd cyntaf o ymgynghoriad firol ar y wê drwy facebook, dulliau ymgynghori gyda themau pêl-droed wedi eu datblygu ar y cyd gyda’r bobl ifanc er mwyn ymgynghori gyda’r unigolion oedd yn rhan o ornest pêl-droed 5 bob ochr, ymgynghoriad gyda thema gemau tîm i deuluoedd er mwyn dod â rhieni a phlant at ei gilydd, pobl ifanc yn ymgynghori gyda’r henoed drwy nifer o dechnegau a dulliau a llawr mwy! Mae’r prosiect yn dangos y gofal arbennig yr ydym yn ei gymryd i annog ymwneud y gymuned a sut rydym yn cefnogi’r gymued i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad.
Beth yw’r canlyniad?
Roedd cyfraddau cyfranogi yn uchel iawn ac roedd 293 o bobl wedi cymryd rhan. Mae Cymunedau’n Gyntaf Llwynhendy wedi medru gweld tystiolaeth o’u cyflawniadau helaeth a’u lefel hynod o ymrwymiad cymunedol yn barod ar gyfer yr adolygiad o Gymunedau’n Gyntaf yn 2012. Mae Cymunedau’n Gyntaf Llwynhendy wedi bod ar flaen y gad gyda thechnegau ymgynghori arloesol, perchnogaeth ymgynghori gan aelodau’r gymuned ac yn bennaf, gwneud canlyniadau adroddiadau cymunedol yn hygyrch i aelodau’r gymuned.
Cyflwynwyd Dynamix â Thlws Seren gan Lindy Butler, Cydlynydd Cymunedau’n Gyntaf, mewn noson wobrwyo i adnabod unigolion a grwpiau oedd wedi gwneud cyfraniad sylweddol i gymuned Llwynhendy.
Beth arall sydd yn dda ei wybod?
I weld copïau o’r adroddiad cliciwch y linciau yma: Addroddiad llawn (Ar gael wrth Gymunedau'n 1af Llwynhendy - Diogelir y cyfeiriad e-bost hwn rhag botiau sbam - bydd angen rhoi JavaScript mewn grym i edrych arno ) I weld yr adroddiad digidiol cliciwch y linciau yma: Ariannwyd y prosiect hwn gan Wasanaeth Cyngor a Chymorth Cymunedau’n Gyntaf sydd yn rhan o’r WCVA.
|