|
Beth
yr ydym yn ei wneud?
Mae
Dynamix wedi bod yn rhan o brosiect cyffrous a gwobrwyol yng
nghymuned Llwynhendy i wneud gwaith gwerthuso are u 8 mlynedd
diwethaf yn rhaglen Cymunedau’n Gyntaf Llwynhendy.
Y
nod yw gwerthuso’r cynnydd yn erbyn set o stategau llinell gefn
wedi eu adnabod mewn ymgynghoriad yn 2003, sefydlu beth sydd wedi
gwella a pha sialensiau sydd yn dal i wynebu’r gymuned.
Pam
ydym eisiau rhannu hyn gyda chi?
Rhannwyd
y prosiect yn ddau lle roedd gwirfoddolwyr o grwpiau oedolion a phobl
ifanc yn ogystal â’r tîm
Cymunedau’n Gyntaf wedi eu cefnogi i ddeall beth sydd angen ei
ystyried wrth gynnal ymgynghoriad, ystod o ddulliau ac wrth ddylunio
ymgynghoriad, oedd yna wedi ei ymgymryd gan y gwirfoddolwyr a
Dynamix.
Yna
cyflwynwyd hyn i’r gymunedi’r gymuned mewn digwyddiad â
fynychwyd gan 120 o drigolion, ysgrifennom adroddiad llawn, adroddiad
gweledol hawdd ei ddarllen ar gyfer aelodau’r gymuned a fe’i
gyflwynwyd mewn adroddiad digidol yn eiriol a gweledol sydd ar gael
ar youtube.
Fe
waneth Amy Sanders, y gweithwir o Dynamix gael profiad gwerthfawr
iawn yn gwneud y gwaith hwn.
Roedd
yn bleser cael gweithio gyda’r gymuned yn Llwynhendy ac mae’r
bartnertiaeth Cymunedau’n Gyntaf yn ysbrydoledig, mae’r lefel
rhyfeddol o ymwneud cymunedol yn Llwynhendy a’r ffaith fod y tîm
Cymunedau’n Gyntaf yn cael eu parchu gymaint gan y gymuned yn ddau
thema oedd wedi rheoli’r brosiect cyfan. Mae’n stori llwyddiant
ardderchog ac yn dangos pa mor bositif y mae gwaith datblygu
cymundeol yn gallu bod.
Mae’r
prosiect hefyd yn mynd â gwaith Dynamix ymlaen (hyd yn oed mwy!)
drwy ddartblygu dulliau ymgynghori newydd gan gynnwys ein defnydd
cyntaf o ymgynghoriad firol ar y wê drwy facebook, dulliau
ymgynghori gyda themau pêl-droed wedi eu datblygu ar y cyd gyda’r
bobl ifanc er mwyn ymgynghori gyda’r unigolion oedd yn rhan o
ornest pêl-droed 5 bob ochr, ymgynghoriad gyda thema gemau tîm i
deuluoedd er mwyn dod â rhieni a phlant at ei gilydd, pobl ifanc yn
ymgynghori gyda’r henoed drwy nifer o dechnegau a dulliau a llawr
mwy! Mae’r prosiect yn dangos y gofal arbennig yr ydym yn ei gymryd
i annog ymwneud y gymuned a sut rydym yn cefnogi’r gymued i gymryd
rhan yn yr ymgynghoriad.
Beth
yw’r canlyniad?
Roedd
cyfraddau cyfranogi yn uchel iawn ac roedd 293 o bobl wedi cymryd
rhan. Mae Cymunedau’n Gyntaf Llwynhendy wedi medru gweld
tystiolaeth o’u cyflawniadau helaeth a’u lefel hynod o ymrwymiad
cymunedol yn barod ar gyfer yr adolygiad o Gymunedau’n Gyntaf yn
2012.
Mae
Cymunedau’n Gyntaf Llwynhendy wedi bod ar flaen y gad gyda
thechnegau ymgynghori arloesol, perchnogaeth ymgynghori gan aelodau’r
gymuned ac yn bennaf, gwneud canlyniadau adroddiadau cymunedol yn
hygyrch i aelodau’r gymuned.
Cyflwynwyd
Dynamix â Thlws Seren gan Lindy Butler, Cydlynydd Cymunedau’n
Gyntaf, mewn noson wobrwyo i adnabod unigolion a grwpiau oedd wedi
gwneud cyfraniad sylweddol i gymuned Llwynhendy.
Beth
arall sydd yn dda ei wybod?
I
weld copïau
o’r adroddiad cliciwch y linciau yma:
Adroddiad hawd ei ddarllen
Addroddiad llawn (Ar gael wrth Gymunedau'n 1af Llwynhendy -
Diogelir y cyfeiriad e-bost hwn rhag botiau sbam - bydd angen rhoi JavaScript mewn grym i edrych arno
)
I
weld yr adroddiad digidiol cliciwch y linciau yma:
Adroddiad digidiol
Ariannwyd
y prosiect hwn gan Wasanaeth Cyngor a Chymorth Cymunedau’n Gyntaf
sydd yn rhan o’r WCVA.
|