dynamix-logo.gif
text size: A- A A+
Staff y Swyddfa

ann-brown.jpgSwyddog Cyllid

Mae gan Ann OND mewn Astudiaethau Busnes a gradd mewn Astudiaethau Cymysg. 

Mae Ann wedi gweithio efo Cymorth i Fenywod a MEWN. Mae ei sgiliau cyllidol ardderchog yn ein helpu i gadw'n pennau uwch y dwr! Roedd hi'n arfer canu efo'r band The Plagiarettes (a chafodd eu gwrthod gan Opportunity Knocks  am fod yn rhy ddadleuol!).

 
sions.jpg

Rheolwr Swyddfa

Mae gan Sionedwyn radd mewn Cymraeg ac Astudiaethau Ffilm a Theledu.

Mae hi'n siaradwr Cymraeg iaith gyntaf, sydd yn ein galluogi i gyfieithu dogfennau yn fenwol. Mae hefyd yn ardderchog am gyfieithu dogfennu ffurfiol yn rhai addas i bobl ifanc.. Mae ei dawn creadigol yn ddelfrydol ar gyfer dylunio deunyddiau marchnata ac mae'n rhedeg y swyddfa gyda threfn.

 

nancy-brown.jpg Rheolwr Swyddfa

Mae gan Nancy 4 mlynedd o brofiad mewn rhedeg swyddfeydd, yn ogystal a gradd mewn Daearyddiaeth.

Dyw Nancy ddim yn hawdd i'w chynhyrfu - er bod swyddfa prysur Dynamix yn ei gwthio i'r min ar adegau! Pan nad yw hi'n trefnu'r hyfforddwyr, mae hi'n hoff o ddatblygu adeiladau/addurno ystafelloedd. I leihau straen, mae nancy'n mwynhau neidio bynji, awyr-blymio ac eirafyrddio.

 
ness-buckler.jpg

Rheolwr Swyddfa

Mae gan Ness radd Seicoleg/Troseddoleg a diploma mewn dulliau Gweinyddiaeth.

Gyda'r gallu i ganolbwyntio ar nifer o dasgau ar unwaith, gall Ness siarad ar y ffon ac edrych ar ol y hyfforddwyr ar yr un pryd! Hi yw pencampwr ailgylchu Dynamix a mae hi;n sicrhau bod pawb yn cadw i mewn efo ein poisiau amgylchedd. Mae hi'n hoff o archebu adnoddau 'gwyrdd', sicrhau bod pawb yn cael eu hoff de/coffi Masnach Teg ac ymweld a'r Canolfan Adnoddau Chwarae. 'Dydi hi ddim yn hoffi bagiau 'jiffy'. Rhai blynyddoedd yn ol, cymerodd ran mewn fideo pop!

 

rosalba.jpg Rheolwr y Storfa

Mae Rosalba yn effeithlon iawn, gan sicrhau bod strofa Dynamix (sy'n llawn dop o degannau a pheiriannau) yn cael ei ei gadw'n drefnus ac hefyd yn cynorthwyo'r tim gweinyddu.

Mae hi wedi gweithio efo pobl ifanc yn Townhill, can gynnwys trip cyfnewid efo plant amddifad o Romania. Mae hi'n trefnu'r perfformiadau ar gyfer Samba Tawe, grwp drymiau a grwpiau dawns ar nifer o achlysuron. Roedd hi'n arfer rhedeg siop trin gwallt ei hun, mae hi wrth ei bodd yn garddio a mae hi'n siarad Eidaleg.

 

armadip-virdee.jpgGlanhawr

Mae Armadip yn cadw swyddfa Dynamix, y mannau cyhoeddus a'r ystafell hyfforddi yn lan tra'n gwisgo amrywiaeth hynod o freichledau gloyw!